Promo image: In Parenthesis | Iain Bell

In Parenthesis | Iain Bell

Lleoliad
Cardiff, Birmingham and London
Dyddiad
Gwen 13th Mai - Gwen 1st Gorffennaf 2016

Première Byd

Cerddoriaeth gan Iain Bell
Libretto gan David Antrobus a Emma Jenkins
(ar ôl David Jones)

Wrth nodi 70 mlynedd o WNO mae'n amser i edrych i'r dyfodol. Pa well ffordd i wneud hyn na gyda première byd opera mawr newydd? In Parenthesis yw addasiad Iain Bell, y cyfansoddwr ifanc Prydeinig, o’r gerdd epig gan y bardd, y llenor a’r artist Cymraeg, David Jones.

Comisiynwyd In Parenthesis gan y Nicholas John Trust gyda 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol y Deyrnas Unedig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i’r Somme. Ym Mametz Wood maent yn dod ar draws teyrnas ryfedd - y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond yn angheuol.
Yn hytrach nad dim ond adrodd straeon am erchyllterau’r Somme, mae In Parenthesis yn meiddio cynnig gobaith. Hyd yn oed yma, yng nghanol yr holl ddinistr, fe allwn weld blodeuo bregus adfywio ac aileni. Mae sgôr hyfryd Bell yn cyfuno caneuon traddodiadol Cymreig gydag eiliadau arallfydol, erchyllterau, hiwmor a throsgynoldeb. Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn coffau ac yn dwyn i gof digwyddiadau’r Somme.

Mae opera yn gelfyddyd sy’n byw ac anadlu. Ond, er mwyn iddi barhau i dyfu ac esblygu, rydym angen i chi ymuno â ni ar gyfer yr hyn rydym yn gredu fydd yn waith mawr, pwysig newydd.

Cast a chreadigol

Arweinydd Carlo Rizzi
Cyfarwyddwr David Pountney
Cynllunydd Robert Innes Hopkins
Dylunydd Goleuo Malcolm Rippeth

Cast

Preifat John Ball Andrew Bidlack
Bardd Brittannia/Swyddog Pencadlys Peter Coleman-Wright
Bardd Germania/Alice y Barforwyn/Brenhiness y Coed Alexandra Deshorties
Rhaglaw Jenkins George Humphreys
Is-Gorproal Lewis Marcus Farnsworth
Y Rhingyll Snell Mark Le Brocq
Dai Greatcoat Donald Maxwell
Y Rhingyll Marne Graham Clark



Rhaglen o Ddigwyddiadau
Promo image: Field

Field

Lleoliad
Canolfan Mileniwm Cymru
Dyddiad
Gwen 13th Mai - Gwen 1st Gorffennaf 2016

Open day and night from 13 May until the 1 July 2016

Bydd gosodiad digidol ysblennyd yn darparu coffâd ingol i’r Fwsilwyr Brenhinol Cymreig a fu farw yng Nghoed Mametz. Lleolir y gosodiad yn uniongyrchol y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru.


Promo image: In Parenthesis Darllediad

In Parenthesis Darllediad

Lleoliad
The Opera Platform
Dyddiad
Gwen 1st Gorffennaf

Bydd ein cynhyrchiad o In Parenthesis yn cael ei darlledu ar The Opera Platform theoperaplatform.eu ar 1 Gorffennaf. 

“Rhyfel yn Uffern!” Brwydr Coed Mametz mewn Celf

Lleoliad
National Museum Wales
Dyddiad
Sad 30th Ebrill - Sul 4th Medi 2016

O’r 30 Ebrill hyd 4 Medi eleni, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cy wyno arddangosfa newydd yn co o un o’r brwydrau mwyaf arwyddocaol a gwaedlyd a frwydrwyd gan lwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gweithiau a arddangosir yn cynnwys y llun o’r Wynebddalen o argraf ad cyntaf ‘In Parenthesis’ gan David Jones. Mynediad am ddim, manylion.