Yn y bennod hon…

Sain In Parenthesis
Erthygl
Portrait of Emma Jenkins

Cyfweliad â Thomas Dilworth

Emma Jenkins

Printiwch hwn

Cyfarfu’r libretydd Emma Jenkins â Tom Dilworth i’w holi am David Jones ac In Parenthesis.   Mae Dilworth yn Athro cadeiriol amlwg mewn Saesneg ym Mhrifysgol Windsor, Canada ac yn arbenigwr blaenllaw ar waith David Jones.  Roedd ei lyfrau The Shape of Meaning in the Poetry of David Jones, a enillodd Wobr y Cyngor Prydeinig yn y Dyniaethau, a David Jones in the Great War yn ysbrydoliaeth i Emma a David wrth greu’r libreto. Ar hyn o bryd, mae wrthi’n cwblhau cofiant awdurdodol David Jones.

Mae David Jones yn llawer iawn mwy na bardd rhyfel yn unig. Allwch chi ddweud wrthym lle mae’n sefyll ymhlith ei gyfoedion megis Owen a Sassoon a beth sy’n ei wneud yn wahanol? 

Ydi, mae Jones yn rhywun sy’n llawer iawn mwy nag unrhyw fardd arall y Rhyfel Mawr.  Ysgrifennodd dwy o’r cerddi hiraf gorau yn y Saesneg, In Parenthesis (1937) a The Anathemata (1954). Wedi i WH Auden ddarllen The Anathemata drosodd a throsodd am chwe mis, fe’i galwodd hi, ‘cerdd hir fwyaf y ganrif mae’n debyg’. At hyn, roedd Jones yn ysgrythwr ac yn arlunydd pwysig. Roedd hynny’n caniatáu iddo ddod ag ymdeimlad o ffurf weledol-ofodol unigryw i farddoniaeth fodern. Roedd hefyd yn feddyliwr pwysig. Mae ei draethodau ar estheteg a diwylliant a gesglir yn Epoch and Artist (1959) ac yn The Dying Gaul (1978) yn gyfraniad gwreiddiol i’n dealltwriaeth o ddiwylliant a gwareiddiad. (Mae Kenneth Clark, yr adolygydd celf o Efrog Newydd Harold Rosenberg, a’r ysgrifennydd o Americanwr Guy Davenport yn cytuno â hyn.) Felly, mae Jones yn fardd pwysig ond yn fwy na hynny, ef, Virginia Woolf, a Henry Moore yw’r Prif Fodernwyr Prydeinig cynhenid.

Ymddengys bod adfywiad anferthol o ddiddordeb ym mhob agwedd o ysgrifennu ac arlunio David Jones. Beth yw’r rheswm am hyn yn eich barn chi?

Oherwydd canmlwyddiant y Rhyfel mawr yn bennaf. In Parenthesis yw’r gwaith llenyddol gorau o bell ford i ddod o’r rhyfel. Dyna yw barn Auden (a gyffelybodd Jones i Homer), yr hanesydd milwrol Michael Howard, a’r nofelydd Adam Thorpe. Galwyd In Parenthesis yn ‘waith athrylithgar’ gan T.S. Eliot, ‘un o gerddi gorau’r ganrif’ gan Graham Greene, ‘un o gyflawniadau llenyddol mwyaf nodedig ein hamser’ gan Herbert Read, a ‘cofeb orau unrhyw ryfel’ gan Adam Thorpe.  Ym marn Igor Stravinsky roedd yn ‘ysgrifennu gwaith athrylithgar’ a, chyda llaw, heb nodi unrhyw destun na thema benodol, gofynnodd iddo gydweithio ag o ar opera, ac i Jones ysgrifennu’r libreto.

 

Thomas Dilworth

Bu hefyd arddangosfeydd yn ddiweddar o gelf weledol Jones yn Chichester (yn dod i ben 21 Chwefror) a Ditchling (yn dod i ben 6 Mawrth), gyda’r ddwy’n cael adolygiadau canmoliaethus yn y wasg. Ei ysgrythiadau a’r peintiadau o’r dirwedd yn hwyr yn yr 1920au sy’n denu gan fwyaf, gan eu bod yn hawdd eu gwerthfawrogi’n syth. Mae ei beintiadau hwyrach o flodau mewn ffiolau blodau gwydr - peintiadau sy’n hynod hardd, a’i arysgrifau peintiedig syfrdanol wreiddiol hefyd yn denu sylw. Fe wnaeth beintiadau mwy cymhleth a chynnil, sy’n cymryd yn hwy i’w gwerthfawrogi a dim ond elwa byddai rhywun wrth edrych arnynt am gyfnod hwy.  Ond os oes gennych lygad am gelfyddyd weledol, mae nifer o’i luniau’n denu’n syth.  Cred rhai ei fod yn cymharu â Hogarth, Bewick, a Blake fel ysgrythwr. Credai Kenneth Clark ei fod yn peintio gwaith athrylithgar. Bellach, wrth lwc, gallwn weld rhywfaint o’i waith celf weledol ar y we.

At hyn, mae’r bardd o Iwerddon, John Montague, newydd gyhoeddi The Bell, sgyrsiau, yn ei eiriau ef, gyda Jones yn hwyr yn ei oes. Cyhoeddir fy nghofiant i, David Jones, Soldier, Engraver, Painter, Poet,  ym mis Chwefror 2017.

Yn amlwg, mae In Parenthesis yn gerdd Gymreig iawn ond mae ei dylanwad a’i phwysigrwydd i’w gweld yn ymestyn y tu draw i gyfyngiadau o’r fath. Beth yw’r rheswm am hyn? 

Yr unig reswm yr ymddengys bod In Parenthesis yn Gymreig iawn yw oherwydd nad yw'n Gymreig o gwbl - câi Cymru ei heithrio o’r rhan fwyaf, ac o bosib y cyfan, o lenyddiaeth Saesneg, ar ôl dramâu hanesyddol Shakespeare. Saesnig, gan fwyaf, yw In Parentheis. Pam? Oherwydd mai yn Llundain y cafodd Jones ei eni a’i fagu (Saesnes oedd ei fam) ac oherwydd mai Cocnis, gan fwyaf, oedd yn ei fataliwn, yn wahanol i weddill ei gatrawd - a chocni hefyd yw’r prif gymeriad yn In Parenthesis, John Ball. Ond mae Cymreictod yn ymddangos yn erbyn y maes Seisnig hwn. Mae tri chymeriad Cymreig pwysig. Un yw Dai Greatcoat, y troedfilwr cyffredin, y mae ei frolio, sy’n mynd y tu draw i amser, yn ganolog i’r gerdd. Mae ei frolio’n un o ddau ddigwyddiad pan fo chwedloniaeth hynafol Cymreictod yn ffrwydro trwy’r naratif ar yr wyneb mewn ffordd fawr. Nid yw’r gerdd cymaint yn ymestyn y tu draw i Gymreictod ond, yn hytrach, mae’n ei gynnwys mewn môr o Brydeindod. Mae’r Prydeindod yn aruthrol oherwydd ystod anarferol o gyfeiriadau, yn agor i’r Oesoedd Canol, yr Oesoedd Tywyll, y gorffennol ysgrythurol. Mae hyn ynddo’i hun yn ymhlyg Gymreig. Dywedodd Jones wrthyf, ‘Mae’r rhan fwyaf o Saeson yn gweld hanes fel y gwnaeth Churchill, yn ymestyn o’r Dadeni iddo ef ei hun’.A dweud y gwir, yn y gerdd hon, mae Jones yn adfer Cymru i’w lle cywir fel tarddiad a bywiocäwr sylfaenol diwylliant Prydain. Mae’n cyfleu hyn yn ei ragymadrodd pan fo’n ysgrifennu fod y Cymry a Llundeinwyr, gyda’i gilydd, “wedi cario yn eu cyrff wir draddodiad Ynys Prydain, o  Fendigeidfran [Chwedloniaeth Cymru] i Jingle [Dickens] a [seren neuaddau cerdd Lloegr] Marie Lloyd’

Ond nid yw In Parenthesis yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol genedlaethol na hanes yn bennaf. Ei nodwedd amlycaf yw’r agwedd gorfforol fyw y mae’n ei defnyddio i gyfleu’n farddonol fywyd yn y ffosydd, gan ddiweddu mewn brwydr erchyll a dynoliaeth byw'r troedfilwyr. O’i ddwy gerdd hir, In Parenthesis yw’r un y mae gan fwy o bobl feddwl ohoni oherwydd ei bod mor emosiynol.

Ydi’r ffaith fod David Jones wedi troi at Babyddiaeth o gymorth i ddeall y symbolaeth yn In Parenthesis a’i natur sacramentaidd?

Nac ydi. Mae bod yn gyfarwydd â Phabyddiaeth o gymorth mawr wrth ddarllen The Anathemata, ei grynodeb barddonol mawr, dadansoddiad dramatig-symbolaidd o ddiwylliant y gorllewin, y dywedodd wrthyf oedd ‘yn werth hanner cant ‘In Parenthesis’. Ond nid yw’n bwysig ar gyfer In Parenthesis, ac mae hynny’n gymorth i egluro pam fod mwy yn ei darllen.

Roedd Jones yn meddwl mai’r Offeren Babyddol oedd y gwaith gorau o ran celfyddyd orllewinol. A dywedodd fod In Parenthesis yn  magu momentwm fel yr Offeren. Yn y gerdd ceir sawl achos o debygrwydd litwrgaidd rhwng y dynion yn cyrraedd y ffrynt ddydd Nadolig, adeg y Geni, ac offrymu’r Offeren (pan gyflwynir bara a gwin wrth yr allor); ac yn hwyrach rhwng lladd y troedfilwyr yn y Somme, dydd Gwener y Groglith, a chysegriad yr Offeren. Ond gallwch werthfawrogi’r gerdd a chael eich cyffwrdd ganddi heb fod yn ymwybodol o ddim o hyn.

Er hynny, mae dwyfol Frenhines y Goedwig sy’n cyflwyno’r coronblethau i’r meirw ar ddiwedd y gerdd yn cyfleu arwyddocâd moesol ac, o’r herwydd, grefyddol, yn fy marn i. Yn ei wiriondeb amlwg, ym marn Jones, nid yw rhyfel, yn sylfaenol yn ddim gwahanol i weddill bywyd. Dyna pam mae’n ysgrifennu yn ei ragair, ‘Nid fy mwriad oedd i hwn fod yn “Llyfr Rhyfel”’. Un ai mae ystyr mewn rhyfel neu, yn sylfaenol, nid oes ystyr mewn bywyd. Pan fo Brenhines y Goedwig yn gwobrwyo rhinweddau’r troedfilwyr, mae’n awgrymu mai daioni yw ystyr bywyd. Mae daioni’n fetaffisegol. Mae’n cyfleu crefydd neu, o leiaf, ysbrydolrwydd. 

Yn hytrach na bod yn gyfarwydd â Phabyddiaeth, byddai o gymorth bod yn gyfarwydd ag iaith filwrol Prydain, yr iaith dechnegol a’r slang. Darllenwyr gorau In Parenthesis yw cyn-filwyr Prydeinig, fwy na thebyg,  - er bod gan gyn-filwyr yr Unol Daleithiau rhyfel Fietnam barch mawr ati hefyd oherwydd i un ohonynt ysgrifennu ataf, mae David Jones ‘yn wirioneddol gwybod beth yw rhyfel’. I’r gweddill ohonom, rhywbeth i’w dysgu ar hyd y ffordd yw’r iaith filwrol.

Roeddech yn ddigon lwcus i allu treulio amser gyda David Jones tuag at ddiwedd ei oes. Sut ddyn oedd e? Allwch chi rannu ychydig o hanesion â ni?

Oeddwn, roeddwn yn lwcus. Roedd yn ddyn hawddgar. Nid wyf erioed wedi cwrdd ag oedolyn o ddyn oedd yn gynhesach ei deimladau tuag ataf. Ac roedd hyd yn oed yn gynhesach gyda merched. Siaradai gyda dyfnder meddwl mawr a theimladau cryfion. Roedd yn hoff o ymweliadau a siaradai am oriau; am gwrdd ag Yeats a sgyrsiau gyda Dylan Thomas a ‘Tom’ Eliot, am ysgrifenwyr eraill, am arlunwyr a chyfeillion, am ymweliadau â Chymru yn blentyn, ei ymweliad â Jeriwsalem, hanes Cymru, ac yn aml am y rhyfel. Pryd bynnag y gofynnwn, dywedai fod beth ddigwyddodd i John Ball yn In Parenthesis wedi digwydd iddo ef, Jones. Dywedodd fod cysylltiad â’r gorffennol, nodwedd sy’n afrealistig y yn ôl beirniaid o’r gerdd, yn hollbresennol ynddo ef ac yn ei gyfeillion yn y ffosydd. Rwyf yn cofio iddo ddweud fod Tir Neb yn un o’r pethau harddaf iddo erioed ei weld. (Dywedai yn aml iawn rywbeth dwfn na allech chi ddychmygu neb arall yn ei ddweud). Roedd ganddo ddawn aruthrol gyda chyfeillgarwch ac er ei fod yn casáu bod mewn mannau agored oherwydd y rhyfel, roedd ganddo nifer fawr o gyfeillion.

Adroddai hanesion am y rhyfel yn aml: am gael ei daro’n anymwybodol gan ddarn o ffrwydryn, am gael ei anafu yng Nghoedwig Mametz, am y nyrs V.A.D. (Voluntary Aid Detachment) y syrthiodd mewn cariad â hi pan oedd i ffwrdd am gyfnod yn gwella, am ei analluogrwydd fel ‘flash spotter’ gynnau mawr ac am fynd allan ar batrôl nos. ‘Un noson’, meddai, ‘es ar batrôl gyda swyddog a dau ddyn arall, un ohonynt yn rhingyll o’r enw Morgan. Bu i ni gropian i fyny at weiren y gelyn. Gallwn weld Stahlhelm y gwarchodwr yn symud yn ôl ac ymlaen  yn y ffos. Ciciodd Morgan dun yn uchel. Dechreuom chwerthin, ceisio mygu’r chwerthiniad, yn ysgwyd gan ddoniolwch. Munudau wedyn, rhoesom y gorau i chwerthin gan gropian yn ôl cyn gyflymed ag y gallwn’. Dwynodd i gof hefyd eillio mewn ffos oedd wedi’i neilltuo ar ei gyfer pan - roedd fel golygfa o Alice in Wonderland, yn ôl ef’- ymddangosodd Tywysog Cymru gan ofyn am gyfarwyddiadau i leoliad yn y ffos flaen. Yn fuan wedyn, rhedodd cyrnol mawr yn pwffian mynd atom a gofyn,  ‘Ydych chi wedi gweld Tywysog Cymru?’ ‘Do, syr’. ‘I le aeth e?’ Gofynnodd Jones wrtho. ‘Pam na wnaethoch ei stopio?’ gofynnodd y cyrnol a rhedeg i ffwrdd, gyda Jones yn galw ar ei ôl, ‘Sut allwn i, syr.’  Cofiai Jones yn ystod yr ymosodiad ar Goedwig Mametz fod swyddog ifanc o Sais yn annog y dynion mewn llais taten boeth, ‘Cofiwch eich cenedligrwydd!’ a chyn-löwr o Gymro a eisteddai wrth ymyl Jones yn ymateb, ‘Pa genedligrwydd?’

Gan fynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf am y beirdd rhyfel, mae’n werth nodi fod Jones wedi gwasanaethu’n hirach yn y ffosydd nac unrhyw ysgrifennydd rhyfel arall.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sy’n gwbl newydd i In Parenthesis ac sy’n darllen y gerdd am y tro cyntaf?

Y gerdd gyntaf i’w darllen gan David Jones yw ‘The Hunt’ a/neu ‘The Tutelar of the Place’ yn The Sleeping Lord (1974). Y rhain yw ei gerddi byrrach (canolig ei hyd) mwyaf cerddorol. Byddant yn argyhoeddi’r rhan fwyaf o ddarllenwyr ei fod yn fardd gwirioneddol fawr. Yna darllenwch In Parenthesis, gan anwybyddu’r nodiadau cymaint â bo modd. (Ar ddiwedd ei oes, roedd Jones yn edifar ei fod wedi cynnwys nodiadau yn ei gerddi gan ei fod bryd hynny yn sylweddoli eu bod yn troi darllenwyr oddi ar ei waith). Mae diwedd Rhan 2 a chanol Rhan 4 (Dai’n brolio) yn drwch o gyfeiriadau anghyfarwydd, felly trowch at nodiadau ar eu cyfer - rwy’n hoff o ddarllen nodiadau, os o gwbl, ymlaen llaw. Wedi i chi ddarllen y gerdd unwaith, gallech deimlo’n rhwystredig fwy na dim arall oherwydd ei bod yn anghyfarwydd. Peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag ei mwynhau. Darllenwch hi eto.

Roedd gennyf fyfyrwraig glyfar oedd wedi graddio, yn fardd da ei hun, a’i darllenodd a’i chasáu. Dywedodd hyn wrth ffrind iddi a chynghorodd ef iddi ei darllen eto. Felly, pan oedd ar drên ar ei phen ei hun gyda’r gerdd, fe’i darllenodd eto. O’r herwydd, cafodd ei themtio i roi’r gorau i ysgrifennu barddoniaeth: sut allai hi, meddai, fyth ysgrifennu rhywbeth mor ardderchog 

Erthygl
Portrait of Emma Jenkins

Recommended reading

Emma Jenkins

Printiwch hwn

While we were preparing the libretto for In Parenthesis, we naturally did a lot of background reading so we thought it might be useful for audiences to have a reading list of books that we have found helpful for getting a deeper insight into the world of In Parenthesis and the wider work of David Jones.

David Jones in the Great War by Thomas Dilworth: this is a fantastic book to begin exploring the life of David Jones. It is short, very accessibly written, and documents Jones’ life from his enlistment in the Royal Welch Fusiliers right the way through to the end of his involvement in the war. Tom Dilworth is THE expert on the life and work of David Jones and so this book is a must for anyone wanting to learn more.

The Shape of Meaning in the Poetry of David Jones by Thomas Dilworth: another great book by Dilworth, this time focussing on Jones’ writing.  Dilworth drills down into the deeper meaning behind Jones’ poetry. There is so much symbolism and allusion in In Parenthesis, and indeed in all the poetry of David Jones, that it really helps to have a clear interpretation of his references.

The Art of David Jones, Vision and Memory by Professor Paul Hills and Ariane Bankes. This is a beautiful book which was published in tandem with the recent exhibition of David Jones’ paintings at Pallant House in Chichester which was curated by the authors. The books shows the progression of Jones’ work as an artist and the various influences that triggered changes in his work. It also very neatly demonstrates how the writing of In Parenthesis reflected an important transition in his style of painting.

David Jones: Fusilier at the Front by Anthony Hyne. This book showcases the pencil sketches that David Jones created while serving as an infantryman with the Royal Welch Fusiliers.  It is an evocative and vivid record of his experiences, and is interspersed with excerpts from In Parenthesis and explanations of the context of the drawings.

Up to Mametz and Beyond  by Llewelyn Wyn Griffith. First published in 1931 this book has long been regarded as one of the most important accounts of soldiering on the Western Front, and was written by an officer in the same battalion as David Jones. It beautifully charts the experiences of the famous ‘Welsh Army’ (the 38th up Division) both up to and including the fighting in Mametz Wood, and offers an illuminating counterpoint to the events described in In Parenthesis.