Yn y bennod hon…

Cyflwyniad David Jones
Paul Hills ar David Jones
Sain In Parenthesis
Erthygl
Portrait of Emma Jenkins

Darganfod In Parenthesis

Emma Jenkins

Printiwch hwn

Barddoniaeth epig gan yr arlunydd, y bardd a’r ‘gwneuthurwr pethau’ Eingl-Gymreig, David Jones yw In Parenthesis.  Fe’i cyhoeddwyd yn 1937 ac mae’n ymwneud â phrofiadau Jones fel troedfilwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn enwedig felly, yn y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 1915 a mis Gorffennaf 1916 a arweiniodd at Frwydr Mametz Wood, ymladdfa dyngedfennol yn ystod cyfnodau cynnar Ymgyrch y Somme. Dros gyfnod o saith niwrnod rhwng y 5ed a’r 12fed o Orffennaf, bu i’r ymosodiad tanbaid hwn esgor ar dros 4,000 o golledion o’r 38ain Adran ‘Gymreig’ oedd newydd ei ffurfio. Roedd y profiad mor drawmatig i Jones fel ei fod wedi cymryd sawl blwyddyn iddo allu ysgrifennu amdano. Dechreuodd In Parenthesis fel cyfres o ddarluniadau ond yn raddol datblygodd ac esblygodd i fod y gwaith arbennig y gwyddom amdano heddiw. Roedd rhai o ysgrifenwyr pennaf y cyfnod, yn cynnwys W.B Yeats, T.S Eliot a W.H Auden yn ei ystyried yn gampwaith a gwaith athrylithgar. Yn wir, honna Auden fod Jones wedi gwneud ‘i’r Prydeinwyr ac i’r Almaenwyr yr hyn a wnaeth Homer i’r Groegwyr ac i ŵyr Tro.’

‘Gelwir y gwaith yn In Parenthesis oherwydd fy mod wedi’i ysgrifennu mewn math o ofod rhwng - ni wn rhwng beth yn union - ond wrth i chi droi i’r neilltu i wneud rhywbeth; ac oherwydd i ni filwyr amatur (ac yn enwedig felly i’r ysgrifennwr oedd, nid yn unig yn amatur, ond yn gwbl ddi-glem, yn lletchwith ac yn rhywun yr oedd parêd yn anobeithio yn ei gylch) roedd y rhyfel ei hun yn barenthesis - mor falch y credem ein bod i gamu y tu allan i’w fracedi ddiwedd ’18 - a hefyd oherwydd bod math rhyfedd ein bodolaeth yma mewn parenthesis llwyr.’

Mae’r naratif yn adrodd ar gynnydd 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel y’i gwelir drwy lygaid cymeriad lled-hunangofiannol, y Preifat John Ball.  Yn fymryn fel Jones ei hun, mae Preifat Ball yn ‘lletchwith, yn rhywun y mae parêd yn anobeithio yn ei gylch’; gweledydd sensitif a bregus sy’n anghytuno â’r theatr brwydrau y caiff ei hun ynddi. Mae’r naratif yn agor gyda’r bataliwn yn gorymdeithio gyda’r wawr mewn gwersyll gwyntog ger Caer-wynt ac yn paratoi i ymdeithio i Southampton. O yma mae’r stori’n syml iawn, ac yn un a fyddai wedi bod yn hynod gyfarwydd i unrhyw un o gyfoedion Jones. Mae Preifat Ball a’i fataliwn yn cychwyn o Ddociau Southampton ar long sy’n hwylio i Ffrainc. Wedi cyfnod byr o ragor o ymarfer, gwnânt eu ffordd i’r  Rheng Flaen ger Neuve Chapelle lle rhannant eu hamser rhwng ymladd yn y ffosydd a chyfnodau o ymlacio mewn lletyau wedi’u neilltuo ar eu cyfer. Wedi chwe mis o ‘ddysgu eu crefft’ fel troedfilwyr ar y Rheng Flaen, cânt  eu tynnu’n ddidrugaredd i’r de i gyfnodau agoriadol Ymgyrch y Somme. Mametz Wood yw’r olygfa ar gyfer yr ymladdfa olaf, drychinebus lle bydd Preifat Jones yn un o’r ychydig rai a oroesodd.

David Jones gydag adysgrif In Parenthesis. Llun: Ystâd David Jones

Er bod y naratif bras i’w weld yn syml, mae In Parenthesis yn gwbl wahanol i unrhyw hunangofiant a barddoniaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr hyn ydyw, yn hytrach, yw llif trwchus  o ymwybyddiaeth, yn llawn cyfeiriadau ysgolheigaidd, cyfeiriadau, mytholeg a chwedloniaeth glasurol a Beiblaidd. Dim ond yn 1928 y dechreuodd David Jones weithio ar y gerdd, dros ddegawd ar ôl y digwyddiadau a ddisgrifir (ni chafodd y gwaith ei gyhoeddi’n derfynol hyd 1937) a chyda’r pellter amser hwn mae modd iddo edrych ar ei brofiad unwaith eto, a hynny trwy gof a dychymyg. Canlyniad hyn yw bod Preifat Ball a’i gymrodyr yn dod ar draws dwy lefel benodol o brofiad. Y cyntaf yw’r profiad greddfol ac amserol iawn o ryfel, gyda’r ail yn fydysawd cyfriniol a chyfochrog lle mae’r milwyr i’w gweld yn cysylltu â meddyliau eu hynafiaid ac yn uno â rhyfelwyr y gorffennol. Oherwydd bod y dirwedd y maent yn ymladd ynddi yn Ffrainc wedi bod yn fan nifer o frwydrau cynt (gan fynd yn ôl i oresgyniad y Rhufeiniaid a thu draw i hynny), mae Jones yn gallu cludo’i brif gymeriadau yn ôl i fyd chwedloniaeth Crecy, Agincourt ac Arthur.  Canlyniad hyn yw bod y darllenwr yn deall nad yw’n profi’r rhyfel hwn yn unig ond, yn hytrach, bob rhyfel a fu, gan fynd yn ôl i’r cynfyd. Mae milwyr y gerdd wedi dod yn ymgorfforiad o fwy na nhw eu hunain: maent wedi dod yn arwyr trwy eu hawl eu hunain.

Fodd bynnag, er gwaethaf ei ddiweddglo enbyd, erys In Parenthesis yn waith o obaith a chariad tra-rhagorol. Mae’r nodweddion hyn wedi’u gweu’n gynnil trwy’r testun cyfan, ond yn dod i’w llawn dwf ymhlith cyflafan y frwydr derfynol gydag ymddangosiad Brenhines y Goedwig. Daw ei hanrheg dyner o flodau i’r milwyr a syrthiodd (yn Brydeinwyr ac yn Almaenwyr) ag addewid adfywiad i’r goedlan ddiffaith a gwaredigaeth i’r holl feirwon.