About In Parenthesis (CY)

Gwybodaeth

Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o WNO, mae'n amser i edrych i’r dyfodol. Pa well ffordd i wneud hyn na gyda première byd opera mawr newydd? In Parenthesis yw addasiad Iain Bell, y cyfansoddwr ifanc Prydeinig, o’r gerdd epig gan y bardd, y llenor a’r artist Cymraeg, David Jones. Comisiynwyd In Parenthesis gan y Nicholas John Trust gyda 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol y Deyrnas Unedig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.
 
Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i’r Somme. Ym Mametz Wood maent yn dod ar draws teyrnas ryfedd - y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond yn angheuol. Yn hytrach nad dim ond adrodd straeon am erchyllterau’r Somme, mae In Parenthesis yn meiddio cynnig gobaith. Hyd yn oed yma, yng nghanol yr holl ddinistr, fe allwn weld blodeuo bregus adfywio ac aileni. Mae sgôr hyfryd Bell yn cyfuno caneuon traddodiadol Cymreig gydag eiliadau arallfydol, erchyllterau, hiwmor a throsgynoldeb. Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn coffau ac yn dwyn i gof digwyddiadau’r Somme.
 
Mae opera yn gelfyddyd sy’n byw ac anadlu. Ond, er mwyn iddi barhau i dyfu ac esblygu, rydym angen i chi ymuno â ni ar gyfer yr hyn rydym yn gredu fydd yn waith mawr, pwysig newydd.

Archebwch nawr